David Cameron
Mae grŵp o ymgyrchwyr Ceidwadol wedi galw ar David Cameron i ymestyn y cyfyngiadau ar ganiatáu i fewnfudwyr o Fwlgaria a Rwmania ddod i’r DU.
Y Conservative Grassroots, rhwydwaith o aelodau’r blaid, yw’r diweddaraf i gefnogi gwelliant a fyddai’n ymestyn y cyfyngiadau yn hytrach na’u codi ar Ddydd Calan.
Mae’r Prif Weinidog wedi bod dan bwysau gan aelodau o’i blaid i weithredu oherwydd pryderon y byddai rhoi mynediad i’r farchnad lafur yn y DU yn arwain at “don o fewnfudwyr” o ddydd Mercher ymlaen.