Mae glaw trwm a gwyntoedd cryfion yn achosi rhagor o broblemau heddiw.
Mae Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru wedi cael eu galw i sawl ardal yn y Rhondda bore ma oherwydd bod dwr wedi llifo i mewn i dai, ac mae nifer o ffyrdd ynghau oherwydd gwyntoedd cryfion neu lifogydd.
Mae un lon ar gau ar yr M48 ar Bont Hafren oherwydd gwyntoedd cryfion, tra bod coeden wedi disgyn gan rwystro traffig ar yr A465 yn Sir Fynwy.
Mae’r A475 yng Ngheredigion a’r A487 yn Sir Benfro hefyd ar gau oherwydd bod coed wedi cwympo i’r ffordd.
Yn y cyfamser dywed peirianwyr eu bod nhw bellach wedi adfer cyflenwad trydan i filoedd o gartrefi yng Nghymru a Lloegr oedd heb bŵer dros gyfnod y Nadolig, gan gynnwys 20,000 o gartrefi yng ngogledd Cymru.