Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain angheuol ger Llandegla, Sir Ddinbych ddydd Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 12:30pm yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng car Ford Fiesta a fan Mercedes ar gylchfan y gyffordd ar yr A5104 a’r A542 ger Llandegla.
Bu farw’r ddynes oedd yn gyrru’r car yn y fan a’r lle a chafodd dynes arall oedd yn teithio yn y car ei chludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yn Stoke. Dywed yr heddlu ei bod yn dioddef o anafiadau difrifol.
Cafodd gyrrwr y fan ei gludo i Ysbyty Wrecsam Maelor, yn dioddef o fân anafiadau.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.