Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod yn Afon Rothay yn Ambleside, Cumbria meddai’r heddlu.

Bu’r gwasanaethau brys yn chwilio am y dyn ar ôl i aelod o’r cyhoedd ei weld  yn cwympo i’r afon, sy’n llifo tuag at Lyn Windermere, am 2.25yh prynhawn ma.

Awr yn ddiweddarach cafodd corff y dyn ei dynnu o’r dŵr ond roedd eisoes wedi marw.

Mae Heddlu Cumbria wedi rhybuddio pobl i beidio â mynd i afonydd neu lynnoedd gan ddweud bod y dŵr yn “llifo’n gyflym ac yn beryglus.”