Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi iddo rwystro cerbyd yr heddlu a dweud ei fod yn credu fod ei ffrind wedi marw yn dilyn ffrae.

Fe aeth Heddlu Glannau Merswy i gartref yn Knotty Ash, Lerpwl, wedi i’r dyn 52 oed stopio car yn Toxteth, ychydig cyn 4.30yb heddiw.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff dyn 46 oed yn ddiweddarach mewn ty yn Dalemeadow Road.

Dydi’r ymadawedig ddim eto wedi’i adnabod yn ffurfiol, ac mae’r heddlu’n dal i geisio cysylltu gyda’i berthnasau.

Mae ymholiadau drws-i-ddrws yn digwydd yn yr ardal.