Andrew Amoah
Mae Heddlu Gwent yn chwilio am wybodaeth, wedi i Andrew Amoah, 16 oed, ddiflannu o’i gartre’ yn Y Coed Duon ar Ragfyr 10.
Mae Andrew yn fachgen croenddu, 5’10” o daldra, o gorffolaeth denau, gyda gwallt affro du, byr.
Y tro diwetha’ y gwelwyd ef, roedd yn gwisgo jins glas, siaced las, a threnyrs Nike du.
Mae ganddo gysylltiadau ag ardal Woolwich, Yeovil, Swindon a Chaerdydd.
Dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth, gysylltu gyda Heddlu Gwent ar y rhif 01633 838111.