Mae Grŵp Bancio Lloyds wedi cael dirwy o £28 miliwn ar ôl i reoleiddiwr y Ddinas ddarganfod “methiannau difrifol” yng nghynllun bonws y banc.

Yn ôl yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) roedd gormod o bwysau ar staff oedd yn gwerthu nwyddau’r banc i gyrraedd targedau neu wynebu cael eu diraddio.

O ganlyniad, medd yr FCA, roedd diffyg rheolaeth ynglŷn â chynlluniau ar gyfer ymgynghorwyr gyda Lloyds TSB, Banc yr Alban a Halifax yn golygu bod cwsmeriaid mewn perygl o brynu nwyddau nad oedd yn addas neu nad oedden nhw eu hangen.

Roedd un ymgynghorydd wedi gwerthu nwyddau yswiriant i’w hun, ei wraig ac un o’i gyd-weithwyr er mwyn osgoi cael ei ddiraddio, yn ôl yr FCA.

Mae cyfran o’r banc yn berchen i’r trethdalwr.