Pwll nofio Llandysul
Roedd tua 250 o bobol yn bresennol mewn cyfarfod i drafod dyfodol pwll nofio Llandysul neithiwr, wedi i Gyngor Sir Ceredigion gyhoeddi cynlluniau i dorri grant cymunedol o £44,000.

Mae’r grant yn cael ei roi ar gyfer cynnal y pwll, gwersi ysgol a sesiynau nofio am ddim a hebddo, roedd pryder y byddai rhaid i bobol yr ardal deithio i Aberaeron neu Lanbedr Pont Steffan i fynd i nofio.

Ond mae tua 125 o drigolion y dref wedi cytuno i dalu £10 y mis er mwyn ceisio sicrhau dyfodol y pwll sy’n golygu fod dros £15,000 y flwyddyn wedi ei addo hyd yn hyn.

‘Ffyddiog’

Roedd sawl aelod o gyngor y Sir hefyd yn bresennol yn Neuadd Tysul neithiwr ac mae aelodau o’r cyfarfod wedi dweud fod agwedd bositif yno.

“Yn hytrach na chwyno am annhegwch y sefyllfa a mynnu i’r cyngor ailystyried, aeth cefnogwyr ati i gymryd yr awenau eu hunain er mwyn ceisio sicrhau dyfodol y pwll,” meddai blog SOS Llandysul <http://www.sosllandysul.com/>.

Ac mae trefnydd y cyfarfod, y cynghorydd Peter Evans, yn ffyddiog y bydd gweddill colled y grant yn cael ei adennill trwy ewyllys da a chefnogaeth y bobl.

Grantiau

Bu’r aelodau hefyd yn trafod materion cynhaliaeth y pwll, yn benodol y system wresogi yn cyrraedd diwedd ei hoes.

Bydd Peter Evans yn ymgynghori gyda’r cyngor i weld os oes modd derbyn grant i adnewyddu’r boeleri, a bydd yr AC Elin Jones hefyd yn cefnogi’r cais.

Y gobaith yw y bydd y gefnogaeth leol yn gymorth i ennill mwy o grantiau er mwyn gwella a chynnal y pwll yn y dyfodol.