DJ Campbell
Mae ymosodwr Blackburn Rovers DJ Campbell wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad i drefnu canlyniadau gemau pêl-droed am arian.
Mae’r chwaraewr 32 mlwydd oed yn un o chwech o bobl sydd wedi eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad gan yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol ar ol derbyn gwybodaeth gan y Sun on Sunday.
Meddai clwb pêl-droed Blackburn Rovers mewn datganiad: “Yn dilyn adroddiadau yn y cyfryngau cenedlaethol heddiw, gall Blackburn Rovers gadarnhau bod yr ymosodwr DJ Campbell wedi cael ei arestio.
“Ni fydd y clwb yn gwneud unrhyw sylw pellach ar yr hyn sydd bellach yn fater cyfreithiol.”
Roedd papur newydd y Sun on Sunday wedi anfon ymchwilydd cudd i gyfarfod chwaraewr oedd yn dweud y gallai drefnu i bêl-droedwyr yn y Bencampwriaeth gael cerdyn melyn am ddegau o filoedd o bunnau.
Roedd y chwaraewr hefyd yn honni ei fod yn gallu trefnu canlyniadau gemau’r Uwch Gynghrair o flaen llaw a’i fod yn paratoi i wneud yr un peth efo gemau yng Nghwpan y Byd ym Mrasil.
Yn The Sun heddiw, mae’r papur newydd yn dweud bod DJ Campbell wedi cael ei arestio ddoe – ddiwrnod wedi iddo ddod ymlaen fel eilydd i’w dim yn erbyn QPR ddydd Sadwrn.
Mae’r papur newydd yn honni bod ditectifs yn debygol o’i holi am gerdyn melyn a gafodd yn ystod hanner cyntaf y gêm gynghrair yn erbyn Ipswich Town ddydd Mawrth diwethaf.
Mae ditectifs o’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol yn parhau i holi’r chwe dyn y bore yma.