Heddlu'r Asiantaeth Droseddu (Llun: PA)
Mae tri o bobl yn cael eu holi ynglyn â honniadau bod gemau pêl-droed yn cael eu trefnu o flaen llaw am arian.
Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol wedi cadarnhau eu bod wedi gweithredu yn dilyn derbyn gwybodaeth gan y Sun on Sunday.
Roedd y papur wedi anfon ymchwilydd cudd i gyfarfod chwaraewr oedd yn dweud y gallai drefnu i bêl-droedwyr yn y Bencampwriaeth i gael cerdyn melyn am ddegau o filoedd o bunnau.
Roedd y chwaraewr hefyd yn honni ei fod yn gallu trefnu gemau’r Uwch Gyngrhair o flaen llaw a’i fod yn paratoi i wneud yr un peth efo gemau yng Nghwpan y Byd yn Brasil.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth eu bod yn gweithio yn agos efo’r Gymdeithas Bêl-droed a’r Comisiwn Gamblo.