Nigella Lawson
Mae disgwyl i Nigella Lawson roi tystiolaeth yn achos llys dwy o’i chyn gynorthwywyr personol heddiw.

Mae’r chwiorydd Eidaleg, Elisabetta a Francesca Grillo,  o flaen eu gwell ar gyhuddiadau o dwyll drwy ddefnyddio cerdyn credyd gawson nhw gan Nigella Lawson a’i chyn ŵr, Charles Saatchi, er budd personol.

Honnir bod y chwiorydd yn byw bywyd bras ac yn gwario arian ar ddillad a bagiau gan ddylunwyr fel Louis Vuitton , Christian Dior a Vivienne Westwood.

Maen nhw wedi cael eu cyhuddo o wario £685,000 ar eu hunain.

Dydd Gwener, clywodd y llys bod Charles Saatchi wedi cyfeirio at ei gyn wraig fel “Higella” mewn e-bost gan ei chyhuddo o fod dan ddylanwad  cyffuriau ac o ganiatáu i’r ddwy chwaer wario arian y cwpl ar beth bynnag roedden nhw ei eisiau.

Wrth gael ei holi am yr honiadau bod Nigella wedi bod yn cymryd cyffuriau, gan gynnwys cocên a chanabis, bob dydd am 10 mlynedd, dywedodd Charles Saatchi wrth y llys: “Does gen i ddim unrhyw wybodaeth bod Nigella erioed wedi cymryd cyffuriau.”