Mae Grŵp Banc Brenhinol yr Alban wedi ymddiheuro ar ôl i broblemau cyfrifiadurol olygu nad oedd cwsmeriaid yn gallu defnyddio eu cardiau ar un o’r diwrnodau prysuraf ar gyfer siopa ar-lein.

Roedd y nam technegol wedi golygu bod cwsmeriaid gyda Grŵp RBS, sy’n cynnwys banc NatWest a Banc Ulster, wedi methu defnyddio’u cardiau debyd a chredyd. Roedd hefyd wedi effeithio gwefannau’r banc ac ap smartphone.

Mae’r grŵp wedi rhoi addewid na fydd unrhyw gwsmeriaid ar eu colled a dywedodd llefarydd bod rhai cwsmeriaid bellach wedi gallu defnyddio eu cardiau unwaith eto.