Arian i bobl a fydd yn prynu tai (llun PA)
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd pobl sy’n prynu tai yn cael hyd at £1,000 i’w wario ar fesurau arbed ynni.

Bydd y grantiau, sy’n cael eu cyhoeddi gan David Cameron a Nick Clegg yn y Sun on Sunday heddiw, yn rhan o gyfres o newidiadau yn y ffordd y bydd cymorth at insiwleiddio’n cael eu hariannu.

Fe fydd y Llywodraeth hefyd yn rhoi dwy flynedd yn fwy o amser i gwmnïau ynni gyrraedd targedau amgylcheddol. Yn ôl y Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog, fe fydd hyn yn arbed tua £50 y flwyddyn mewn biliau tanwydd i gwsmeriaid.

Fe fydd y grantiau arbed ynni ar gael wrth brynu tai, boed y tai’n rhai newydd neu hen, gyda’r swm yn dibynnu ar faint o waith y bydd angen ei wneud.

“Mae pawb ar eu hennill: mae gwell insiwleiddio’n golygu biliau rhatach; dyna sut yr ydym yn torri allyriadau carbon; a bydd yn hybu busnesau Prydeing sy’n darparu’r gwasanaethau hyn,” meddai David Cameron a Nick Clegg yn eu herthygl.