Llun o'r awyr o rai o ynysoedd Indonesia (PA)
Mae o leiaf naw o bobl wedi cael eu lladd mewn tirlithriad yng ngorllewin Indonesia.

Cafodd amryw o dai eu claddu mewn llifeiriant o fwd a gafodd ei achosi gan law trwm a llosgfynydd yn mudlosgi yn nhalaith Gogledd Sumatra.

Cafwyd hyd i gyrff mam a’i mab dwyflwydd neithiwr, a chafwyd hyd i saith arall y bore yma, gan gynnwys bachgen 10 oed.

Mae glaw trwm tymhorol yn achosi dwsinau o achosion o dirlithriadau a llifogydd yn Indonesia bob blwyddyn. Mae’r wlad yn cynnwys 17,000 o ynysoedd lle mae miliynau o bobl yn byw mewn ardaloedd mynyddig neu ddyffrynnoedd ffrwythlon sy’n gorlifo’n gyson.