Bydd hawliau newydd sy’n galluogi mam newydd i rannu gwyliau mamolaeth gyda tad y babi newydd, yn helpu atal merched rhag teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ddewis rhwng cael gyrfa neu fabi, meddai’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg.

Mae’r Llywodraeth am gyhoeddi manylion terfynol y newid mae’n nhw’n gobeithio fydd yn gadael i ddynion chwarae mwy o rôl yn ystod misoedd cyntaf bywyd y babi.

Bydd y diwygiadau hefyd yn ymestyn hawl bresennol rhieni i ofyn am gael gweithio oriau hyblyg gan eu cyflogwr, mewn ymgais i adlewyrchu rôl gynyddol neiniau a theidiau a gofalwyr eraill wrth edrych ar ôl plant.

Rhannu’r cyfnod mamolaeth

O dan y system newydd bydd y 52 wythnos draddodiadol o gyfnod mamolaeth, ac eithrio’r pythefnos cyntaf er mwyn i’r fam newydd gryfhau, yn gallu cael ei rannu rhwng y ddau riant.

Mae disgwyl i’r system newydd ddod i rym ym mis Ebrill 2015.

Ond, mewn ymdrech i leddfu ofnau cwmnïau llai, bydd rhaid i reolwyr gytuno ar unrhyw batrwm arfaethedig i gael amser i ffwrdd.

Cadarnhaodd Nick Clegg fod cynllun cychwynnol i ymestyn absenoldeb tadolaeth gyda thâl wedi ei ddileu oherwydd ei fod yn rhy ddrud, er y bydd tadau yn cael yr hawl i gael dau ddiwrnod i ffwrdd, yn ddi-dâl, i fynychu apwyntiadau cyn-geni.

Byddai cyflogwyr yn cael eu rhoi o dan ddyletswydd gyfreithiol i ystyried ceisiadau mewn modd “rhesymol”.

Cenadwri Clegg

Dywedodd Nick Clegg, sydd wedi disgrifio’r system bresennol fel un Edwardaidd: “Mae menywod yn haeddu’r hawl i fynd ar drywydd eu huchelgeisiau a pheidio teimlo fod rhaid iddyn nhw ddewis rhwng cael gyrfa lwyddiannus neu gael baban. Dylen nhw gael eu cefnogi gan eu cyflogwyr yn hytrach na chael eu gwneud i deimlo’n llai cyflogadwy neu o dan bwysau i gymryd swyddi di-her.

“Mae eisoes yn anghyfreithlon i ddiswyddo menyw oherwydd ei bod yn feichiog, neu ar gyfnod mamolaeth, ond rydym am fynd yn bellach na hynny. Rydym am greu cymdeithas decach sy’n rhoi hyblygrwydd i rieni ddewis sut maen nhw’n rhannu gofal eu plentyn yn y flwyddyn gyntaf ar ôl y geni. “