Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon
Mae Llywodraeth yr Alban wedi prynu maes awyr rhyngwladol Prestwick yn Glasgow am £1.

Cafodd ei hyn ei gadarnhau gan ddirprwy brif weinidog y wlad, Nicola Sturgeon, heddiw.

Roedd y perchnogion blaenorol, Infratil, yn gwneud colled blynyddol o £7 miliwn ar y maes awyr, ac roedd ei ddyfodol yn y fantol.

“Mae’r pryniant yn sicrhau dyfodol maes awyr Prestwick Glasgow a gallwn bellach gychwyn gweithio gyda’n partneriaid ar ddatblygu’n gweledigaeth i wneud llwyddiant ohono,” meddai.

“Mae’r maes awyr yn dal i fod yn agored ac mae’r staff presennol yn dal i gael eu cyflogi yno.”

Ychwanegodd y bydd yn gwneud datganiad mwy manwl i Senedd yr Alban gyda hyn.