Mae’r dau berson wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu holi am dair gwraig oedd wedi eu cadw’n gaeth am tua 30 mlynedd.
Does dim manylion am y cwpwl 67 oed, heblaw awgrym nad ydyn nhw’n dod yn wreiddiol o wledydd Prydain.
Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau nad oes elfen rywiol yn y troseddau honedig.
Trawma
Yn y cyfamser, mae’r tair gwraig – Gwyddeles 57 oed, gwraig 69 oed o Falaysia a gwraig arall 30 oed – yn cael cymorth gan weithwyr proffesiynol ac elusennau.
Yn ôl Heddlu Llundain, mae’r tair yn diodde’ o trawma gyda’r posibilrwydd fod yr ieuenga’ wedi cael ei dal yn gaeth ar hyd ei hoes.
Roedd ganddyn nhw rywfaint o ryddid, meddai’r heddlu, ond o dan reolaeth gaeth – tan i’r wraig o Iwerddon alw elusen y Freedom Charity ar 18 Hydref eleni.
Wythnos yn union yn ddiweddarach, fe gawson nhw’u rhyddhau.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain ei bod wedi cymryd tan fore ddoe i arestio’r ddau berson – yn rhannol oherwydd ei bod mor anodd cael tystiolaeth glir gan y tair gwraig.
“Roedd rhaid i ni gael cymorth proffesiynol gan asiantaethau o’r tu allan,” meddai. “Y peth ola’ oedden ni eisiau oedd cynyddu’r trawma. Fe wnaethon ni ohirio’r arestio nes caael ffeithiau i gyfiawnhau hynny.”
Mae’r ddau wedi cael eu rhyddhau tan ddyddiad ym mis Ionawr.
Y cefndir
Mae ffigurau cyhoeddus yn awgrymu bod adroddiadau bob blwyddyn am tua 200 o achosion o gaethiwed yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn.
Mae ymchwiliadau ar droed i gyfres o achosion posib yng Ngwent ar hyn o bryd.