Mae ffigurau newydd wedi cynyddu’r galw am newid Fformiwla Barnett sy’n dosbarthu arian o Lundain i wledydd fel Cymru.

Fe gyhoeddodd y Trysorlys ffigurau sy’n dangos for gwario cyhoeddus y pen yn llawer uwch yn y gwledydd datganoli nag yn Lloegr.

Maen nhw’n dangos hefyd fod Cymru yn cael cannoedd yn llai y pen na’r Alban a mwy na mil yn llai na Gogledd Iwerddon.

Mae Llywodraeth Cymru a chomisiynau ymchwil yng Nghymru wedi galw am newid y Fformiwla – yn ôl y Llywodraeth, rhaid cael hynny cyn ystyried datganoli trethi.

Lloegr yn is

O fewn Lloegr, mae Llundain a dwy o ranbarthau’r gogledd yn agos at lefelau Cymru ond mae’r gweddill dipyn yn is.

Eisoes, mae gwleidyddion yn Lloegr wedi galw am newid ac mae’r ffigurau’n cael eu defnyddio gan wrthwynebwyr annibyniaeth yn yr Alban.

Er hynny, yn ôl Llywodraeth yr SNP mae’r pwysau’n brawf mai annibyniaeth yw’r unig ffordd o amddiffyn gwario cyhoeddus yno.

Y tabl

Gwario yn y gwahanol wledydd – ffigwr am bob person yn y boglogaeth

Cymru   £9,707

Alban     £10,152

Gog Iw  £10,876

Lloegr    £8,529