Mae pedwar o bobl, gan gynnwys dau o blant, wedi marw mewn tân mewn tŷ.

Mae trydydd plentyn yn cael ei drin yn yr ysbyty ar gyfer mân anafiadau ar ôl y tân yng Ngogledd Wingfield, ger Chesterfield, Sir Derby.

Cafodd y Gwasanaeth Tan eu galw am 5 bore heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sir Derby eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad ar y cyd a’r gwasanaeth tân.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Mae dau oedolyn a dau o blant wedi marw o ganlyniad i’r tân.”