Paul Flowers
Mae cadeirydd grŵp Co-op, Len Wardle, wedi ymddiswyddo ar ôl iddo gyfaddef bod “cwestiynau difrifol” wedi codi yn dilyn yr helynt cyffuriau’n ymwneud a chyn gadeirydd bancio’r Co-op Paul Flowers.

Mae Len Wardle wedi bod yn y swydd ers 2007. Fe gyhoeddodd fis diwethaf ei fod yn bwriadu gadael ym mis Mai 2014 ond mae bellach wedi dweud y bydd yn gadael ei swydd yn syth.

Len Wardle oedd yn arwain y bwrdd oedd wedi penodi Paul Flowers, gweindiog Methodistaidd fu’n cadeirio Banc Co-op am dair blynedd o 2010.

Honnir bod lluniau, a gafodd eu cyhoeddi mewn papur newydd dros y penwythnos, yn dangos Paul Flowers yn prynu a defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.

Dywedodd Len Wardle: “Mae’r datgeliadau diweddar am ymddygiad Paul Flowers wedi codi nifer o gwestiynau difrifol i’r banc a’r grŵp.

“Fi oedd yn arwain y bwrdd oedd wedi penodi Paul Flowers i arwain bwrdd y banc ac oherwydd yr amgylchiadau hynny rwy’n teimlo mai nawr yw’r amser priodol i mi gamu i lawr.

“Rwy’n gobeithio y bydd y grŵp yn cymryd y cyfle i roi strwythur democrataidd newydd mewn lle fel ein bod yn gallu moderneiddio er budd ein holl aelodau.”