Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caeredin wedi darganfod ffordd newydd o sganio’r galon a all roi cymorth i ddoctoriaid weld os oes gan rywun risg uchel o gael trawiad.

Mae’r prawf, sy’n defnyddio lluniau â chydraniad uchel (high resolution) ac olinydd ymbelydrol, yn gallu dod o hyd i blac a braster peryglus yn rhydwelïau’r galon.

Dywedodd y cardiolegydd Dr Marc Dweck: “Mae’n debygol na fydd yn holl fraster sy’n cael ei weld yn arwain at drawiad, ond mi fydd yn ddefnyddiol i ddod o hyd i gleifion sydd angen triniaeth brys.”

Profion

Cafodd 40 o gleifion a oedd wedi cael trawiad ar y galon yn ddiweddar, eu sganio ar gyfer yr ymchwil. Roedd plac i’w weld mewn 37 o’r cleifion – a dyma’r tro cyntaf i sgan allu adnabod peryglon yn ôl yr astudiaeth.

Er hyn, mae angen ymchwili pellach i ddarganfod os byddai adnabod plac cyn yn hytrach nag ar ôl trawiad yn gallu arbed bywydau.

Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, mae tros 100,000 o bobol yn cael trawiad ar y galon bob blwyddyn yng ngwledydd Prydain.