Mae tri syrffiwr wedi achub gwraig rhag boddi, wedi iddi hi gael ei tharo gan don enfawr a’i bwrw oddi ar ei bwrdd syrffio.

Fe gafodd y wraig 38 oed o Lundain ei llusgo dan y dwr gan don, wrth iddi syrffio’r arfordir ger South Fistral yn Newquay, Cernyw.

Ond fe welodd syrffiwr arall, Jordan Henwood, a oedd yno’n syrffio gyda dau o’i ffrindiau, y wraig mewn trafferthion, cyn ei thynnu hi i ddiogelwch creigiau gerllaw.