Mae’r gwasanaethau brys wedi gorfod torri dau o bobol yn rhydd o’u ceir wedi damwain rhwng tri cherbyd yng Nghastell-nedd.

Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru sydd wedi rhyddhau un o’r bobol, ac aelod o’r gwasanaeth Ambiwlans ryddhaodd y llall.

Fe ddigwyddodd y ddamwain toc cyn 9yb ddydd Sadwrn, Tachwedd 2, ar Ffordd Lewis.