Emrys Thomas a phlant Cartref Bontnewydd ddiwedd y 1960au
Bu farw’r gweinidog a fu’n warden ar Gartref Plant Bontnewydd, Gwynedd.
Roedd y Parchedig Emrys Watkin Thomas yn 94 mlwydd oed, ac yn byw ar gyrion tre’ Caernarfon, nepell o bentre’r Bontnewydd, tan y diwedd. Bu farw ddydd Llun, Hydref 28.
Fe gafodd Cartref Bontnewydd ei sefydlu yn y flwyddyn 1902 trwy rodd o £1,000 gan ddyn busnes lleol o’r enw Robert Ellis. O’r cychwyn, roedd yn achos oedd yn cael ei gefnogi gan gapeli lleol, nes dod yn un o gyfrifoldebau ffurfiol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Mae’r cyn-breswylwyr sy’n cofio Emrys Thomas a’i wraig Menna wrth y llyw yn y Cartref, yn talu teyrnged i’r ymdeimlad o deulu yr oedden nhw wedi’i greu yno.
Pan ddaeth y ddau, a’u mab Iolo, i fyw i’r Bontnewydd yn y 1960au, fe ddaethon nhw â theledu lliw a gwres canolog yn eu sgil. Ac fe ddaethon nhw hefyd ag egni i godi arian i brynu bws mini er mwyn mynd â phlant y Cartref am dripiau.
Roedd Emrys Thomas yn frawd i’r diweddar Barchedig Ednyfed Thomas, gweinidog a fu’n genhadwr ym Mryniau Khasia a Jaintia yng ngogledd-ddwyrain India.
Cynhelir ei angladd yng Nghapel Seilo, Caernarfon ac yna yn Amlosgfa Bangor, ddydd Llun, Tachwedd 4.