Yr awdur, Stephen King
Mae dyn a aeth i mewn i gartre’r awdur, Stephen King, heb ganiatad, yn wynebu cyhuddiadau.
Yn ol yr heddlu, fe gamodd Christopher Prince, 29 oed, o Orono, Maine, i mewn i gartre’r awdur yn Bangor, Maine, ddydd Mawrth yr wythnos hon, cyn cael ei orchymyn i adael gan staff.
Fe ddechreuodd pethau fynd yn flêr, yn ôl yr heddlu, pan drodd Christopher Prince yn gas a dechrau ymladd gyda’r swyddogion oedd yn ceisio ei holi.
Fe gafodd ei arestio yn y diwedd, a’i gyhuddo o fethu ag ildio i gael ei arestio. Fe gafodd ei gyhuddo o dresbasu.