Mae’r heddlu wedi arestio dyn a menyw ar amheuaeth o lofruddio pâr priod oedrannus a gafodd eu darganfod wedi eu claddu yng ngardd eu cartre’ yn Mansfield.
Cafodd Susan Edwards, 55, a’i gŵr, Christopher, 57, yng ngorsaf trenau St Pancras, Llundain, nos Fercher.
Nid yw heddlu Swydd Nottingham wedi cadarnhau enwau’r pâr ond deellir fod Susan Edwards yn ferch i William a Patricia Wycherley – a ddau y daethpwyd o hyd i’w cyrff wedi’u claddu yng ngardd eu cartre’ y mis diwetha’.
Yn ôl cymdogion, bu William a Patricia Wycherley’n byw yno rhwng 1987 a 1998 pan ddiflannodd y ddau.
Credir bod Susan a Christopher Edwards yn byw dramor.