Mae bargyfreithwyr wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “roi blaenoriaeth i doriadau dros gyfiawnder” wrth i’r cyfnod ymgynghori ar newidiadau i’r drefn Cymorth Cyfreithiol ddod i ben.
Maen nhw wedi dweud wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei bod yn gosod mwy o bwys ar “arbedion tymor byr”, a hynny ar draul y drefn gyfiawnder.
Fe fyddai’r argymhellion y mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Chris Grayling, wedi eu rhoi gerbron, yn:
* llai o gyfle i bensiynwyr gael cymorth cyfreithiol;
* aelwydydd yn gorfod talu eu costau cyfreithiol eu hunain, os oes ganddyn nhw fwy o arian wrth-gefn nac sy’n cael ei ganiatau;
* lleihau faint o gostau y medr cyfreithwyr eu hawlio am gynrychioli cleient.
Y bwriad, yn ol Chris Grayling, yw y bydd yr argymhellion yn arbed £220m y flwyddyn erbyn 2018/19.