Nile Ranger
Mae pêl-droediwr sydd wedi ei gyhuddo o dreisio menyw, wedi ymddangos gerbron llys.
Gwadodd Nile Ranger, 22, sy’n chwarae i Swindon Town, y cyhuddiad pan ymddangosodd gerbron Llys y Goron Newcastle heddiw.
Cafodd Nile Ranger, oedd yn chwarae i Newcastle United pan gyflawnwyd y drosedd honedig ar 23 Ionawr eleni, ei ryddhau ar fechnïaeth.
Disgwylir i’r achos ddechrau ym mis Ionawr.