Mae dau ddyn oedd yn ôl yr heddlu yn rhan o’r “cynllun yswiriant ceir ffug mwyaf yng ngwledydd Prydain” dan glo yn dilyn achos llys yn yr Old Bailey.

Cafodd Danyal Buckharee, 42, o Putney ei garcharu am dair blynedd, a’r ddedfryd honno i gyd-redeg â dedfryd o bedair blynedd a hanner a dderbyniodd am drosedd arall yn ymwneud ag achos twyll arall.

Cafodd Giovanni Recchia, 46, o Swydd Nottingham ei garcharu am flwyddyn wedi iddo ei gael yn euog o dwyll fis yn ôl.

Clywodd y llys fod Buckharee wedi creu pedair gwefan oedd yn cynnig yswiriant car rhad.

Defnyddiodd y wefan i dwyllo 600 o yrwyr i brynu polisïau di-werth dros y ffôn rhwng Mai 2011 ac Ebrill 2012.

Doedd nifer o’r dioddefwyr ddim yn sylweddoli eu bod wedi cael eu twyllo tan i’r heddlu gipio eu ceir am nad oedd ganddynt dystysgrif yswiriant dilys.

Clywodd y llys fod Buckharee wedi gwario’r rhan fwyaf o’r £550,000 a gasglodd drwy’r twill mewn casinos.