Mae Prydeiniwr wedi cael ei arestio a’i gyhuddo o hacio i systemau cyfrifiadurol byddin America, NASA a’r asiantaethau cartref.
Mae rheithgor yn Newark wedi dedfrydu fod Lauri Love, 28, o Stradishall, Suffolk, a’i bartneriaid wedi dwyn gwybodaeth am filwyr ac am aelodau o staff y llywodraeth ffederal.
Mae’r Unol Daleithiau yn dweud mai’r diben oedd “amharu ar is-adeiledd” y wlad.
Fe gafodd Lauri Love ei arestio yn New Jersey ddydd Gwener diwetha’. Mae wedi ei gyhuddo, ynghyd â dau gydweithiwr – y naill yn Awstralia a’r llall yn Sweden – o hacio.