Andrew Mitchell
Mae’r tri swyddog fu ynghanol helynt ‘plebgate’ wedi ymddiheuro am eu “penderfyniad gwael” i drafod  y ffrae gyda’r cyfryngau yn dilyn cyfarfod gyda cyn brif chwip y Blaid Geidwadol  Andrew Mitchell.

Ni chafodd yr Arolygydd Ken MacKaill, y Ditectif Stuart Hinton a’r Sarjant Chris Jones eu disgyblu yn dilyn ymchwiliad mewnol gan Heddlu Gorllewin Mersia, ar ôl i’r tri gael eu cyhuddo o geisio pardduo Andrew Mitchell.

Ond dywedodd  Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) y dylai’r tri fod wedi wynebu panel disgyblu gan ddweud bod ’na gwestiynau’n codi am “onestrwydd” y tri chynrychiolydd o Ffederasiwn yr Heddlu.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Ffederasiwn yr Heddlu mae’r tri swyddog yn mynnu nad oedden nhw wedi bwriadu camarwain unrhyw un ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd yn y cyfarfod gydag Andrew Mitchell.

Roedd Andrew Mitchell wedi cwrdd â’r tri ar ôl cael ei gyhuddo o alw plismyn sy’n gweithio yn Downing Street yn “plebs” am eu bod wedi gwrthod gadael iddo seiclo drwy’r prif gatiau ar 19 Medi’r llynedd.

Mae cofnodion o’r cyfarfod yn dangos bod yr AS wedi ymddiheuro am regi at y plismyn ac wedi mynnu na ddefnyddiodd y gair ‘plebs’. Ond roedd  yr Arolygydd Ken MacKaill wedi honni bod Andrew Mitchell wedi gwrthod rhoi esboniad am y digwyddiad.

Fe fydd y tri yn gorfod mynd gerbron y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref er mwyn rhoi “esboniad llawn” o’r hyn ddigwyddodd.