Madeleine McCann
Mae bron i 500 o bobl wedi cysylltu â’r heddlu gyda gwybodaeth yn dilyn apêl o’r newydd ar raglen Crimewatch am wybodaeth ynglŷn â diflaniad Madeleine McCann, meddai Scotland Yard.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andy Redwood ei fod yn “fodlon iawn” gyda’r ymateb i raglen Crimewatch y BBC neithiwr.

Fe fydd yr heddlu nawr yn dechrau pori drwy 300 o alwadau ffôn a 170 o e-byst a gafwyd yn dilyn y rhaglen.

Mae disgwyl i Andy Redwood deithio i’r Iseldiroedd a’r Almaen dros y dyddiau nesaf er mwyn parhau gyda’r apêl am wybodaeth.

Dywed Andy Redwood bod ’na dystiolaeth y gallai rhai fod wedi “cynllwynio i gipio” Madeleine o flaen llaw.

Maen nhw’n dweud bod dyn wedi cael ei weld yn cario plentyn tuag at y traeth tua 10yh ar Mai 3, 2007. Mae’r heddlu hefyd yn ceisio adnabod dynion gyda gwallt golau a gafodd eu gweld yn ymddwyn yn amheus ger y fflatiau lle’r oedd teulu’r McCanns yn aros.

Mae dau e-lun o’r dynion gyda gwallt golau wedi cael eu rhyddhau.