Protest y tu allan i bencadlys y Daily Mail
Mae protestwyr yn ymgynnyll y tu allan i bencadlys y Daily Mail yng ngorllewin Llundain wth i’r ffrae am erthygl y papur am dad arweinydd y Blaid Lafur, Ed Milliband, fynd o ddrwg i waeth.

Roedd y papur wedi ysgrifennu erthygl amdano o dan y penawd “Y dyn oedd yn casau Prydain”.

Fe wnaeth newyddiadurwyr o chwaer bapur y Daily Mail sef y Mail on Sunday hefyd fynychu gwasanaeth coffa preifat i ewythr Ed Milliband heb wahoddiad.

Mae Ed Milliband wedi mynnu bod ymddygiad y newyddiadurwyr yn nodweddiadol o ddiwylliant y ddau bapur.

Ymateb

Cafodd ymateb i’r erthygl yn y Daily Mail ond fe wnaeth y golygyddol yn yr un rhifyn gyhuddo Ralph Milliband o “adael etifeddiaeth drygionus”.

Mae perchennog y cwmni sydd biau’r papurau, Is-Iarll Rothermere wedi ymddiheuro am yr hyn wnaeth newyddiadurwyr y Mail on Sunday.

Dywedodd Mr Milliband heddiw ar Radio 5 ei fod yn dymuno gweld dadlau gwleidyddol llawer mwy gwaraidd ac aeddfed yng ngwledydd Prydain.

Ychwanegodd na fasai byth yn cyhuddo David Cameron o gasau Prydain.

“Beth fuaswn i’n ei ddweud,” meddai “ oedd bod ei bolisiau yn gwbl annoeth ac nad ydw’i credu ei fod yn wir nad ydyw’n gadael unrhyw un ar ei ôl.”