Mae disgwyl i adolygiad ddatgelu sut yr oedd asiantaethau diogelu plant wedi colli cyfleoedd i ymyrryd ar ôl i fachgen 2 oed gael ei guro i farwolaeth gan ei fam.

Bu farw Keanu Williams ar ôl i barafeddygon gael eu galw i fflat yn Birmingham ar 9 Ionawr, 2011.

Roedd ganddo 37 o farciau ar ei gorff a rhwyg yn ei stumog. Dywedodd Heddlu  West Midlands bod ei anafiadau’n “frawychus”.

Yn gynharach eleni cafodd ei fam Rebecca Suttleworth, o Hay Mills, Birmingham ei charcharu am oes.

Cafodd ei phartner, Luke Southerton, ei garcharu am naw mis wedi’i ohirio am achosi creulondeb i blentyn.

Roedd yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol yn ymwybodol o’r cwpl cyn marwolaeth Keanu Williams.