Fe fydd yr isafswm cyflog cenedlaethol yng ngwledydd Prydain yn codi 12c yr awr fory (Hydref 1), ond mae undebau llafur wedi gofyn am fwy o godiad er mwyn gwella bywyd go iawn.

Fory, fe fydd cyflog oedolyn yn codi i £6.31 yr awr (i bobol dros 21 oed) ac i £5.03 yr awr i bobol ifanc rhwng 18 a 20 oed. I bobol ifanc 16 a 17 oed, fe fydd yr isafswm cyflog yn codi o 4c yr awr i £3.72.

Mae isafswm cyflog pob prentis yn codi o 3c i £2.68 yr awr.

Yn ol llywodraeth y Deyrnas Unedig, fe fydd 890,000 yn cael codiad cyflog o ganlyniad i hyn.