Andrew Mitchell
Mae cost ymchwiliad yr heddlu i’r achos a gafodd ei enwi ‘Plebgate’ wedi cyrraedd £237,000.

Fe ddechreuwyd ar y gwaith yn dilyn ymddiswyddiad y cyn-Brif Chwip, Andrew Mitchell, wedi i hwnnw ffraeo gyda swyddogion diogelwch wrth y giat i Stryd Downing.

Roedd wedi trio mynd a’i feic i mewn trwy’r giat y llynedd, ond wedi ei rwystro rhag gwneud.

Mewn llythyr at yr Aelod Seneddol Keith Vaz, mae Comisiynydd Cynorthwyol Heddlu Llundain, Patricia Gallan, wedi cadarnhau fod y gost o gynnal yr ymchwiliad bellach wedi cyrraedd £237,000.

Mae’r ymchwiliad wedi gofyn am ddatganiadau gan dros 800 o blismyn yn y Grwp Diogelwch Diplomataidd.