'Larry'
Mae swyddogion 10 Downing Street wedi gwadu honniadau mewn llyfr newydd bod teulu’r Prif Weinidog yn casau Larry, y gath ddaeth i fyw yno o Gatref C
ŵn a Chathod Battersea ym mis Chwefror 2011.

Mae honniadau yn llyfr newydd Mathew D’Ancona In it Together sy’n dweud mai prop cysylltiadau cyhoeddus yn unig ydi’r gath.

Dywedodd llefarydd: “Mae hyn yn gwbl anwiredd. Mae Larry yn boblogaidd iawn efo pawb yn yr adeilad.”

Cyndyn

Go gyndyn oedd Larry i fynd ar ôl llygod yn ôl pob sôn ar ôl dod i fyw i Downing Street ar y cychwyn, ond yna ym mis Awst llynedd cyhoeddwyd ei fod wedi dal ei lygoden gyntaf.

Mae’r cwmni betio Ladbrokes yn credu y bydd Larry yn aros yn 10 Downing Street am gyfnod dipyn hirach na David Cameron.

Mae’r ods ar Mr Cameron yn gadael Downing Street gyntaf yn 1/2 a’r ods ar y gath yn 6/4.

Dywedodd Jessica Bridge o Ladbrokes “Mae hyn yn adeg gwael iawn i Cameron yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog, ac er gwaethaf ei gasineb at y gath rydyn ni’n credu y bydd Larry yn parhau yn Rhif 10 ar ôl iddo fo hen adael.”