George Osborne
Mae disgwyl i’r Canghellor George Osborne gyhoeddi heddiw bod economi Prydain yn “troi cornel”.

Mewn ymdrech i fanteisio ar gyfres o arwyddion bod yr economi’n gwella, mae disgwyl iddo ddweud bod yr economi ar y trywydd iawn.

Ond fe fydd hefyd yn pwysleisio ei bod yn ddyddiau cynnar a bod nifer o heriau’n parhau.