Mae protestwyr yn erbyn ffracio wedi addo y byddan nhw’n parhau i ymgyrchu yn erbyn safle yn Sussex.

Er fod pethau’n dawelach heddiw ger canolfan cwmni Cuadrilla yn Balcombe, mae cannoedd yn dal i wersylla yno ac roedd heddlu’n llinellau o flaen y fynedfa.

Fe ddywedodd llygad-dystion eu bod wedi gweld o leia’ ddau o bobol yn cael eu cipio gan yr heddlu, ac mae 12 o bobol wedi ymddangos o flaen llys ynglŷn â phrotest gynharach.

Rhyddhau

Fe gawson nhw’u rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod ar ôl cael eu cyhuddo o dorri deddf yn ymwneud ag undebau llafur trwy geisio atal gyrrwyr a gweithwyr rhag mynd i’r safle mewn protest y mis diwetha’.

Roedd 30 arall wedi eu harestio ddoe, gan gynnwys Aelod Seneddol y Blaid Werdd, Caroline Lucas.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y mudiad No Dash For Gas eu bod yn ystyried beth i’w wneud nesa’ ond fe addawodd eu bod yn bwriadu parhau i brotestio yn y tymor hir.