Mae swyddogion o’r heddlu a’r RSPCA wedi achub 30 o gŵn o dai ar draws gogledd Cymru ac wedi arestio un unigolyn ar amheuaeth o ymweud ag ymladd cŵn.

Roedd y digwyddiad yn rhan o ymchwiliad Morpheus i ddod o hyd i bobol sy’n cymryd rhan mewn ymladd cŵn anghyfreithlon ac achosi poen i anifeiliaid.

Fe gynhaliwyd y cyrchoedd ar dai yng Nghaernarfon, Ynys Môn a Llandudno ac mae’n ymddangos bod milgwn a chŵn o fridiau croes ymhlith y rhai sydd wedi eu hachub.

“Mae’r math yma o weithred yn achosi dioddefaint barbaraidd a thrwy weithio ar y cyd, gallwn roi diwedd i gam drin anifeiliaid,” meddai’r Prif Arolygydd Ian Briggs o’r RSPCA.

“Rydym wedi gweithio’n agos â thîm troseddau bywyd gwyllt Heddlu Gogledd Cymru ac rydym yn gwerthfawrogi eu help i ganfod y rhai sydd dan amheuaeth o achosi poen i anifeiliaid.”