Cafodd dyn 64 oed ei ladd mewn ffrae ynghylch lle parcio i’r anabl y tu allan i archfarchnad Asda yn Swydd Bedford ddydd Sadwrn.

Mae pensiynwr 65 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Tim Bedford, sy’n arwain yr ymchwiliad ar ran heddlu Swydd Bedford:

“Roedd y ddau ddyn mewn lle parcio i’r anabl ar y pryd, ac fe arweiniodd anghytundeb am barcio at un dyn yn taro’r llall i’r llawr.

“Mae’n ymddangos bod dadl am ddim byd wedi arwain at ganlyniadau trychinebus i’r dynion a’u teuluoedd.”

Ychwanegodd fod yr heddlu’n apelio am unrhyw dystion i’r digwyddiad.