Mae Banc RBS wedi cyhoeddi elw o £1.4bn yn hanner cyntaf eleni ar ôl gwneud colled o £1.7bn llynedd.

Roedd RBS yn un o’r banciau gafodd eu hachub gan lywodraeth Prydain bum mlynedd yn ôl am eu bod mewn trafferthion ariannol difrifol.

Ddoe cyhoeddodd banc Lloyds TSB, sydd hefyd yn rhannol eiddo i’r trethdalwyr, bod y cwmni hefyd wedi gwneud elw am y tro cyntaf ers blynyddoedd.

Dywedodd cadeirydd RBS Syr Philip Hampton, bod y banc bellach yn sefydliad diogel a chadarn.

“Ein ffocws yn awr yw adeiladu banc gwirioneddol dda ar gyfer ein cwsmeriaid a’n cyfranddalwyr, dychwelyd y banc i eiddo preifat a chwarae ein rhan yn llawn yn y gwaith o gefnogi economi y Deyrnas Unedig,” meddai.

Pennaeth newydd

A’r bore yma, mae’r Canghellor George Osbourne wedi cyhoeddi mai Ross McEwan fydd pennaeth newydd RBS yn dilyn ymddisywddiad Stephen Hester.

Mr McEwan yw pennaeth adran manwerthu’r banc ar hyn o bryd.

Mewn datganiad gan RBS cyhoeddwyd na fydd Mr McEwan yn cael taliadau bonws am weddill 2013 nac ychwaith am 2014.

Ni fydd hefyd yn cael pensiwn ond yn hytrach swm ariannol fydd yn cyfateb i 35% o’i gyflog.

Traferth talu biliau

Yn y cyfamser mae Gwasanaeth Cyngor Ariannol Llywodraeth Prydain yn honni bod dros hanner trigolion gwledydd Prydain yn cael trafferth talu’i biliau.

Dyma ganlyniad arolwg o 5,000 o bobl holwyd ar hyd a lled yr Alban, Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Yn ôl y gwasanaeth, teuluoedd Gogledd Iwerddon sy’n cael y trafferth mwyaf gyda 66% yn dweud eu bod yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.