Mae miloedd o bobol wedi ymweld â’r Parc Olympaidd yn Llundain er mwyn dwyn i gof Gemau Olympaidd 2012, a ddechreuodd union flwyddyn yn ôl.

Mae Gwyl ‘Open East’ yn nwyrain Llundain yn cael ei chynnal er mwyn nodi blwyddyn ers cynnal y Gemau ym mhrifddinas Llundain.

Mae hi hefyd yn nodi agoriad swyddogol y parc sydd bellach yn agored i’r cyhoedd ac sydd wedi’i enwi’n Barc Olympaidd y Frenhines Elizabeth.

Mae disgwyl i dros 50,000 o bobol ymweld â’r digwyddiad dros y Sul, cyn y bydd y parc yn agored i bawb, yn ddi-dâl, o 2yp ddydd Llun ymlaen.

Canolbwynt yr wyl ydi fersiwn castell bownsio o feini Côr y Cewri gan yr artist Jeremy Deller. Mae’r Barbican yn cynnal llwyfan cerddoriaeth mewn pabell syrcas las, enfawr.