Mae pump swyddog yng ngharchar uwchradd Belmarsh wedi cael eu gwahardd o’u gwaith ar ôl i un o’r carcharorion golli dau ddant tra’n cael ei rwystro yno.

Mae Michael Adebolajo ynghyd â Michael Adebowale wedi eu cyhuddo o ladd Lee Rigby yn y stryd ger barics Woolwich ar 22 Mai.

Collodd Adebolajo ei ddannedd tra’n cael ei rwystro yn ystod digwyddiad yn Belmarsh dydd Mercher diwethaf.

Ymchwiliad

Mae’r gwasanaeth carchar wedi cadarnhau bod yr heddlu yn ymchwilio i’r mater.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth bod “pump aelod o staff y carchar wedi cael eu gwahardd o’u gwaith tra bo’r heddlu yn ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.”

Gwrthododd wneud unrhyw sylw ychwanegol.

Mae Heddlu Llundain hefyd wedi cadarnhau bod “honniad o ymosodiad” wedi ei gyflwyno i’r heddlu gan y carchar a bod ymchwiliad ar y gweill.

Ymateb chwyrn

Mae Undeb y Swyddogion Carchar, y POA, wedi ymateb yn chwyrn i’r gwaharddiadau gan fynnu y bydd unrhyw honniadau yn erbyn eu haelodau yn cael eu gwrthbrofi.

Meddai llefarydd : “Mae’r POA yn ymwybodol o ddigwyddiad dydd Mercher 17 Gorffennaf pan gafodd carcharor ei rwystro trwy ddefnyddio technegau cydnabyddedig o’r enw Rheolaeth a Chyfyngu.”

“Mae ein haelodau yn gwadu yn daer bod unrhyw ddrygioni wedi digwydd ac fe fydd y POA yn eu cefnogi yn gyfreithiol ac yn emosiynol yn ystod y cyfnod anodd yma.”

“Mae technegau gwahardd yn cael eu defnyddio dim ond yn ôl yr angen ar hyd a lled y wlad.”

Mae’r undeb hefyd wedi beirniadu y Weinyddiaeth Cyfiawnder am beidio ymateb i’r hyn mae nhw’n ei alw yn “adroddiadau dros ben llestri” o’r hyn ddigwyddodd.