Mae ysbytai’n wynebu beirniadaeth lem ynglŷn â miloedd o farwolaethau diangen pan fydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae disgwyl i gyfarwyddwr meddygol y GIG yn Lloegr, yr Athro Syr Bruce Keogh, son am  ofal gwael, camgymeriadau meddygol a chamreoli mewn 14 o ymddiriedolaethau lle mae ymchwiliadau wedi cael eu cynnal ynglŷn â chyfraddau marwolaethau uchel.

Fe fydd yn awgrymu nad oedd sgandal ysbyty Staffordd yn enghraifft unigol.