Mae’r cyflog lleia’ sydd eu hangen i gael safon byw derbyniol wedi codi’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwetha’ a’r costau’n uwch nag y mae mesurau’r Llywodraeth yn ei ddangos.

Dyna gasgliad adroddiad newydd gan Sefydliad Joseph Rowntree, sy’n dweud bod y pwysau’n arbennig o galed ar gyplau gyda phlant.

Maen nhw’n dweud bod y cynnydd yn 25% tros bum mlynedd a 40% tros ddeg – ond dim ond 30% yw’r ffigwr yn ôl mesur chwyddiant Llywodraeth Prydain.

Fe gododd y ffigwr sylfaenol o 4% yn ystod y flwyddyn ddiwetha’, meddai’r adroddiad – mwy na’r 2.4% yn ffigurau’r Llywodraeth.

Angen bron £39,000

Erbyn hyn, meddai’r adroddiad, mae angen i gwpwl â phlant ennill £38,800 cyn treth er mwyn cyrraedd yr isafswm angenrheidiol – £16,850yw’r ffigwr i berson sengl.

Tra bod pensiynau’n cynnig symiau sy’n agos at y ffigwr angenrheidiol mae budd-daliadau i bobol oed gwaith, medden nhw, wedi syrthio’n gymharol yn ystod y blynyddoedd diwetha’.