Rhun ap Iorwerth
Mae cyn-newyddiadurwr y BBC, Rhun ap Iorwerth wedi cael ei ddewis yn ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer yr isetholiad yn Ynys Môn.

Bydd yr isetholiad yn cael ei chynnal ar 1 Awst.

Cafodd ei ddewis yn ystod cyfarfod hystings yn Llangefni heno.

Roedd tri  yn y ras i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer yr isetholiad – Heledd Fychan, Ann Griffith a Rhun ap Iorwerth.

Cyhoeddodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Ieuan Wyn Jones yr wythnos diwethaf  ei fod yn gadael y Cynulliad er mwyn dechrau swydd fel Prif Weithredwr Parc Gwyddoniaeth Menai.

Croesawyd yr enwebiad gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, a ddywedodd y byddai Rhun ap Iorwerth yn gredyd i Ynys Môn, i Blaid Cymru ac i Gymru.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn anrhydedd cael ei ddewis, ac y byddai’n gweithio’n galed dros bobl Môn fel Aelod Cynulliad.

‘Hwb enfawr i’r tîm ar Ynys Môn’

Meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC: “Rwyf wrth fy modd fod Rhun ap Iorwerth wedi ei ddewis yn ymgeisydd Plaid Cymru dros Ynys Môn. Roedd gennym ddewis cryf iawn o ymgeiswyr oedd yn awyddus i gael yr enwebiad, ac y maent oll yn gredyd i Blaid Cymru a’r ynys. Rwy’n siŵr y bydd dewis Rhun yn rhoi hwb enfawr i’r tîm ar Ynys Môn yn y gwaith sydd o’u blaenau.

“Gwn y bydd gwaith caled ac ymroddiad Rhun ap Iorwerth yn ei wneud yn gynrychiolydd gwych dros Ynys Môn, Plaid Cymru a Chymru.

“Bydd Rhun yn dilyn ôl troed Ieuan Wyn Jones, a fu’n AC ac yn AS rhagorol dros Ynys Môn ac a oedd wastad yn rhoi pobl yr ynys yn gyntaf.”

‘Anrhydedd’

Meddai ymgeisydd newydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: “Rwyf yn ei chyfrif yn anrhydedd cael fy newis gan aelodau Plaid Cymru yn Ynys Môn fel eu hymgeisydd yn yr isetholiad.

“Fe fyddaf yn dilyn ôl troed Ieuan Wyn Jones o ran rhoi pobl Ynys Môn yn gyntaf, a chynrychioli Plaid Cymru a Chymru hyd eithaf fy ngallu.

“Gefais fy magu yma ym Môn a rŵan dwi’n byw yma efo fy nheulu. Yr wyf yn credu, gyda’n gilydd, y byddwn yn ateb yr heriau sy’n wynebu’r ynys.

“Fy mhrif flaenoriaeth fydd gwella economi’r ynys, gweithio’n galed i greu swyddi sy’n talu’n dda, a chefnogi’r diwydiannau amaeth a thwristiaeth, yn ogystal â helpu busnesau bach.”

Y pleidiau eraill

O ran y pleidiau eraill, mae UKIP wedi dweud eu bod nhw’n paratoi i gyflwyno enw ymgeisydd, ond na fyddan nhw’n cyhoeddi’r enw tan fod yr enwebiad wedi cael sêl bendith y blaid yn genedlaethol.

Cyhoeddodd y Blaid Lafur restr fer o ymgeiswyr heddiw, sef Julia Dobson, Daniel ap Eifion Jones, Tal Michael a Paul Penlington.

Bydd yr ymgeisydd yn cael ei ddewis yn derfynol ddydd Sadwrn.