Stephen Lawrence
Fe fydd honiadau bod swyddogion cudd wedi ceisio difrïo teulu Stephen Lawrence yn cael eu hymchwilio fel rhan o ddau ymchwiliad sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd i honiadau o gamweithredu gan yr heddlu, meddai’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi mynnu y bydd yn mynd at wraidd yr honiadau “arswydus” sydd wedi cael eu gwneud gan gyn blismon cudd Peter Francis, sy’n dweud iddo fod dan bwysau i ddod o hyd i wybodaeth a allai gael ei ddefnyddio yn erbyn teulu’r llanc croenddu gafodd ei lofruddio mewn ymosodiad hiliol ym 1993.

Dywedodd Theresa May y byddai’r honiadau cael eu hystyried gan un ymchwiliad sy’n cael ei arwain gan Brif Gwnstabl Sir Derby Mick Creedon. Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn goruchwylio’r ymchwiliad. Yr ail ymchwiliad a fydd yn ystyried yr honiadau yw’r arolwg i achosion honedig o lygredd gan yr heddlu yn yr ymchwiliad gwreiddiol i lofruddiaeth Stephen Lawrence, sy’n cael ei arwain gan Mark Ellison QC.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi dweud y gallai rhai gael eu herlyn yn dilyn yr ymchwiliadau.