Andy Coulson
Mae cyn-bennaeth cyfathrebu David Cameron wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o ddweud celwydd ar lw.

Fe ymddangosodd Andy Coulson, 45, gerbron Llys Sirol Glasgow ddydd Iau yr wythnos ddiwetha’. Wnaeth e ddim cyflwyno ple na gwneud datganiad, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Ar yr un pryd, fe ddaeth gorchymyn gan y llys na ddylid cyhoeddi gair am yr achos. Mae’r gwaharddiad hwnnw bellach wedi ei godi, yn dilyn cyflwyno her gan y cyfryngau.