Fe fydd cwmnïau’r rhyngrwyd yn gynnwys Google a Microsoft yn cael eu galw i San Steffan i drafod taclo problem lluniau anweddus o blant ar y we.
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller ddweud wrth y sefydliadau i greu cynlluniau yn erbyn lledaeniad delweddau o gam-drin plant erbyn yr hydref.
Mae cwmnïau’r rhyngrwyd eisoes wedi cymryd camau, dan bwysau gan weinidogion ac yn sgil achosion diweddar o lofruddiaethau plant, ond bydd Maria Miller yn eu hannog i fynd ymhellach.
Y cefndir
Roedd Mark Bridger, a laddodd Ebrill Jones y ferch 5 oed o Fachynlleth a Stuart Hazell, llofruddiwr Tia Sharp y ferch 12 oed o Lundain wedi cael mynediad i bornograffi plant treisgar ac mae rhai arbenigwyr yn dadlau bod cysylltiad clir rhwng eu hobsesiynau a’u gweithredoedd.
Mae BT wedi cyhoeddi y bydd unrhyw un o’i gwsmeriaid ceisio cael mynediad i dudalennau gyda delweddau o gam-drin plant nawr yn gweld neges yn dweud wrthynt fod y safle yn cael ei flocio a’r rheswm pam.
O dan y system bresennol, mae’r safle wedi ei blocio, ond dyw defnyddwyr y rhyngrwyd ond yn gweld neges “Error 404”.
Yn ddiweddar iawn, mae Google wedi rhoi £1 miliwn i’r IWF, sy’n gyfrifol am blismona cynnwys troseddol ar-lein. Ond dywedodd Maria Miller gallai’r cwmnïau wneud mwy.
Bydd cynrychiolwyr o Yahoo!, Google, Microsoft, Twitter, Facebook, BT, Sky, Virgin Media, TalkTalk, Vodafone, O2, EE a Three yn y gynhadledd.
Pornograffi treisgar
Ac mewn llythyr ym mhapur newydd y Telegraph heddiw roedd grwpiau yn galw ar y Llywodraeth i gau’r bwlch cyfreithiol sy’n rhoi gwell hawliau cyfreithiol i anifeiliaid a phobl marw na merched pan mae hi’n dod i bornograffi ar y we.
Mae’r llythyr, sydd wedi’i lofnodi gan Mumsnet, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched, Cyngres yr Undebau Llafur, canolfannau argyfwng trais rhywiol ac academyddion ym Mhrifysgol Durham, yn rhybuddio bod darluniau o olygfeydd o drais rhywiol yn gyfreithlon cyn belled a bod yr actorion dros 18 oed.
Ond mae’r un gyfraith yn golygu bod meddu ar luniau o fwystfileiddiwch neu corffgarwch yn anghyfreithlon, sy’n golygu bod gan anifeiliaid a chyrff fwy o hawliau na menywod a merched.